Skip navigation (access key S)
  • English language
  • Welsh language
  • Urdu language
  • Chinese language
  • Bengali language
  • Punjabi language
  • Gujarati language
  • Hindi language
  • Arabic language
  • Turkish language
Cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim: 0845 345 4 345

Am gyngor cyfreithiol arbenigol am ddim

0845 345 4 345

Ffoniwch Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (Community Legal Advice):

  • Cyngor diduedd, cyfrinachol am ddim y telir amdano gan gymorth cyfreithiol
  • Gwasanaeth gwaith achos llawn
  • Llun - Gwener 9am - 6.30pm
  • Galwadau o 4c/funud - galwad yn ôl ar gael

Canfod ymgynghorydd

 

1 Beth yw pwerau beilïaid a chasglwyr dyledion?

Weithiau mae credydwyr yn medru defnyddio beilïaid i gasglu arian sy’n ddyledus iddyn nhw ac fe allan

Os oes arnoch chi  arian ar bethau fel benthyciadau, cardiau credyd a chatalogau, dim ond os ydych chi wedi methu talu fel gorchmynnodd y llys y gall y credydwr ofyn i’r beilïaid ymweld â chi. Os yw hyn yn digwydd, medrwch wneud cais i’r llys i “ohirio” y warant a gofyn i’r llys osod taliadau ar gyfradd y medrwch fforddio.

Os oes arnoch chi arian ar bethau fel treth cyngor, cynhaliaeth plant neu ddirwyon, gall y credydwr ofyn i feilïaid preifat ymweld â chi. Gall beilïaid preifat fod yn anodd iawn i’w trin. Fe fedran nhw godi ffioedd er y gall fod yn bosibl weithiau i herio’r rhain.

  • Ni all beilïaid fynd i mewn i’ch cartref drwy rym os nad ydyn nhw wedi cael dod mewn ar ymweliad blaenorol i gasglu’r un ddyled. Fe ddylech, felly, ystyried gwrthod gadael i’r beili ddod i mewn i’ch cartref. Bydd hyn gwneud yn sicr na fedran nhw ddod i mewn drwy rym os ydyn nhw’n ymweld â chi eto.

Os ydych chi’n gadael Beili i’ch cartref, fe fyddan nhw fel arfer yn gofyn i chi lofnodi cytundeb meddiant cerdded a gadael nwyddau yn eich cartref cyhyd â’ch bod yn gwneud taliadau fel y mynnant.

Fel arfer nid yw beilïaid yn medru atafaelu nwyddau cartref sylfaenol, dillad, dillad gwely ac offer gwaith. Ni chânt atafaelu nwyddau sydd piau person heblaw’r dyledwr ond medrant fel arfer atafaelu nwyddau sy’n eiddo ar y cyd. Byddai’n rhaid i drafodion unrhyw nwyddau sy’n eiddo ar y cyd gael eu rhannu rhwng y perchnogion.

Nid yw Casglwyr Dyledion yn Feilïaid ac nid oes ganddynt yr un ystod o bwerau. Rhaid iddyn nhw beidio aflonyddu ar bobl sydd ag arian yn ddyledus iddyn nhw, ond mae caniatâd iddyn nhw gwrso dyledion drwy lythyr, ffôn a thrwy drafodion cyfreithiol.

Os ydych chi angen help i ddelio gyda Beilïaid, Casglwyr Dyled, neu unrhyw agwedd arall o ddyled, rydyn ni’n argymell eich bod yn siarad gydag un o’n cynghorwyr dyled i gael cyngor arbenigol.

Nol





*