A allaf gael cymorth cyfreithiol?
- Beth ydi cymorth cyfreithiol?
- Math o broblemau
- A ydw i yn gymwys?
- Beth sy’n rhaid i mi ei wneud os ydw i yn gymwys?
Beth ydi cymorth cyfreithiol?
Mae cymorth cyfreithiol yn help i dalu am gyngor cyfreithiol i bobl na allant ei fforddio.
Os oes angen help arnoch i dalu am gyngor cyfreithiol, gallwch wneud cais am gymorth cyfreithiol.
Dibynna p’un fyddwch yn ei gael ai peidio ar:
- Y math o broblem gyfreithiol sydd gennych
- Eich incwm (faint a enillwch) a faint o gyfalaf (arian, eiddo, meddiannau) sydd gennych
- A oes gennych obaith rhesymol i ennill eich achos ai peidio ac a ydi’r achos yn un sy’n werth yr arian a’r amser sy’n angenrheidiol i’w ennill
Math o broblemau
Mae Cymorth Cyfreithiol ar gael ar gyfer llawer math o broblemau sifil cyfreithiol. Mae achos sifil cyfreithiol yn un pan fo anghydfod rhyngoch chi a pherson, cwmni neu sefydliad arall.
Er enghraifft, gall problem sifil fod ynglŷn â’ch:
- cartref
- perthynas (efallai eich bod yn gwahanu neu’n ysgaru)
- arian (efallai bod gennych drafferthion cael budd-daliadau)
A ydw i yn gymwys?
Ar gyfer y rhan fwyaf o achosion, mae’n rhaid i chi fod yn gymwys yn ariannol i gael cymorth cyfreithiol.
Gallwch ddefnyddio ein cyfrifydd cymorth cyfreithiol i weld a ellwch gael cymorth cyfreithiol ar gyfer achos sifil.
I benderfynu a gewch chi gymorth cyfreithiol ai peidio, rhaid ystyried y canlynol:
- eich incwm gwario (arian sy’n weddill ar ôl talu costau byw)
- eich cyfalaf gwario (arian, buddsoddiadau neu eiddo y gallech ei ddefnyddio neu ei werthu i dalu am help cyfreithiol).
Yn y rhan fwyaf o achosion, cymerir i ystyriaeth hefyd incwm a chyfalaf gwario eich gŵr, gwraig neu bartner.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n credu fy mod yn gymwys?
Os ydych yn credu eich bod yn gymwys ar gyfer cymorth cyfreithiol, dylech siarad â chynghorwr cyfreithiol sy’n gallu delio ag achosion cymorth cyfreithiol. Gallwch chwilio ein cyfeiriadur i gael hyd i gynghorwr yn eich ardal neu alw ein llinell gymorth ffôn.
Gwybodaeth bellach
I wybod rhagor am gymorth cyfreithiol, darllenwch, os gwelwch yn dda, ein taflen Arweinlyfr Gam-wrth-gam i Gymorth Cyfreithiol (A Step by Step Guide to Legal Aid).










