Cymorth i Chwilio drwy’r Cyfeiriadur
Mae’r dudalen hon yn rhoi cymorth i ddefnyddio’r Cyfeiriadur gwybodaeth gyfreithiol a darparwyr cyngor.
Ei chwilio
Gallwch ddefnyddio’r Cyfeiriadur mewn dwy ffordd:
- I gael hyd i ddarparwr cyfagos, rhowch eich côd post. Nid oes rhaid i chi roi’r côd post llawn na phoeni ynglŷn â bylchau na phrif lythrennau. Er enghraifft, gallwch roi LE1 3BT, le1 3bt, LE1 neu le1
- Ar y llaw arall, os gwyddoch beth ydi enw’r sefydliad y chwiliwch amdano, rhowch ei enw yn y blwch sydd ar ei gyfer. Os cewch drafferth yn cael hyd i’r sefydliad y chwiliwch amdano, ceisiwch ddefnyddio llai o lythrennau. Er enghraifft, yn hytrach na chwilio am "White", ceisiwch chwilio am “wh”, ac efallai y daw enwau sy’n swnio’n debyg ond a sillefir yn wahanol i’r golwg (er enghraifft, “Whyte”).
Meysydd cyfraith
Ticiwch flwch y maes/meysydd cyfraith sy’n berthnasol i’ch problemau cyfreithiol. Gweler gategorïau cyfraith am ddisgrifiad llawn.
Os nad ydych yn siŵr pa gategori i’w ddewis, ticiwch y blwch pob categori. Rhydd hyn hyd at 50 o ddarparwyr yn eich maes dewisol.
Chwilio manwl
Cliciwch ar y botwm chwilio manwl os oes gennych anghenion ychwanegol fel mynediad cadair olwyn neu’r angen am ddarparwr cymorth cyfreithiol.
Dewiswch Lefel y cymorth
Gofynna’r cwestiwn hwn i chi ddewis y lefel gwasanaeth yr ydych ei eisiau:
- cymorth cyffredinol
- cymorth arbenigol.
Ar y lefelau hyn rhoddir marc ansawdd i ddarparwyr gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol. Gweler Marc Ansawdd y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol am eglurhad llawn.
A oes angen darparwr cymorth cyfreithiol arnoch?
Mae cymorth cyfreithiol yn help tuag at gostau cyngor cyfreithiol i’r rheini na allant ei fforddio. Oherwydd yn y mwyafrif o achosion, rhaid i chi fod yn gymwys yn ariannol i dderbyn cymorth cyfreithiol (gallwch ddefnyddio’r cyfrifydd cymorth cyfreithiol i weld a fyddech yn debygol o dderbyn cymorth cyfreithiol ai peidio).
Os ydych yn gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol a bod angen darparwr cymorth cyfreithiol arnoch, ticiwch y blwch hwn.
A fyddech chi’n hoffi sefydliad sy’n gweithio â grwpiau targed penodol?
Os dymunwch ddelio â sefydliad sydd â phrofiad o weithio â grŵp targed arbennig (er enghraifft, rhieni unigol neu fyfyrwyr), dewiswch y grŵp hwnnw, os gwelwch yn dda, o’r gwymplen.
Dewisiadau hygyrchedd
Yma gallwch ddynodi’r hyn sydd ei eisiau arnoch:
- i fynd i swyddfa ble ceir rhywun sy’n siarad iaith heblaw Saesneg
- i gyfathrebu trwy ddefnyddio iaith arwyddion
- mynediad i gadair olwyn.
Ymwrthodiad
Mae cywirdeb y cyngor a ddarperir gan yr oll o’r sefydliadau, cwmnïau neu unigolion a grybwyllwyd ar y tudalennau hyn neu ar safleoedd eraill a gysylltir â’r tudalennau hyn, yn cynnwys y rhai a enillodd Farc Ansawdd GCC, yn gyfrifoldeb y sefydliad, y cwmni neu’r unigolyn. Ni dderbynnir unrhyw gyfrifoldeb gan, nac ar ran, y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol am gyngor anghywir neu gamarweiniol a ddarparwyd gan y cyfryw gwmnïau, sefydliadau neu unigolion.










